Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar

Llanilar

Aberystwyth

Ceredigion

SY23 4PA

Prifathro: Mr M Carruthers

Ffon/Phone 01974 241 334

E bost/ E mail: prif@llanilar.ceredigion .sch.uk

www.ysgolgynraddllanilar.co.uk

Annwyl Rieni,

Dyma mwy o fanylion am weithgareddau sydd yn digwydd hanner tymor nesaf:

22-2-10 Bydd plant Blwyddyn 5 a 6 yn mynychu sesiynau 'Dance mats' am y pedwar sesiwn nofio/gymnasteg nesaf yn y Ganolfan Hamdden ym Mhlascrug.

23-2-10 3.30 - 5.30yp Noson Agored. Bydd yna gyfle i chi edrych ar waith eich plant ac mi fydd yr athrawon ar gael i gael sgwrs anffurfiol ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd Mrs Williams ar gael yn y neuadd.

1-3-10 Dathliadau Dydd Gwyl Dewi - Bydd y plant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Mae yna groeso i'r plant ddod yn eu gwisgoedd Cymreig. Ni fydd nofio ond bydd y plant yn mynd i'r gampfa ym Mhlascrug i wneud dawnsio gwerin.

4-3-10 Diwrnod y Llyfr. Gwisgo i fyny fel hoff gymeriad o unrhyw lyfr gan gofio i ddod a'r llyfr gyda nhw. Gweithgareddau eraill yn ystod y diwrnod.

4-3-10 Eisteddfod yr Urdd - Rhagbrofion i unigolion

5-3-10 Eisteddfod yr Urdd ym Mhenglais am 4.00yp

15-3-10 Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd

17-3-10 - Blwyddyn Derbyn 1 a 2 i ymweld â pherfformiad 'Queen of colour' gyda chwmni Arad Goch yn Aberystwyth. Cost £3.

18-3-10 Blwyddyn 5 a 6 i fynychu gweithgareddau wythnos Gwyddoniaeth yn y Brifysgol Cost £1.00

26-3-10 Tymor yn gorffen. Ysgol yn cau am 1.30yp.

12-4-10 Ysgol yn ail agor. Blwyddyn 5 a 6 yn mynychu taith preswyl i Glanllyn.

Yn gywir,



M Carruthers