Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar
Llanilar
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 4PA
Prifathro: Mr M Carruthers
Ffon/Phone 01974 241 334
E bost/ E mail: prif@llanilar.ceredigion .sch.uk
www.ysgolgynraddllanilar.co.uk

Croeso 'nol i bawb ar ôl y gwyliau. a gobeithio cafwyd amser da gan bawb.  Croeso cynnes i'r plant newydd sef  Demi, Elliw, Gwen, Libby a Lowri. Gobeithio y byddant yn hapus gyda ni yn yr ysgol.  Bydd Miss Davies yn dechrau ei secondiad yn Ysgol Craig yr Wylfa ar Ionawr 25ain.  Bydd Miss Rhiannon Parry yn cymryd ei lle fel athrawes ddosbarth yn ogystal â dyletswyddau Dirprwy Pennaeth.

Amgaeaf restr o'r amserlen nofio a chlwb Urdd gyda'r llythyr hwn:

17/20 -1-10  Taith preswyl i Kingswood. 
27-1-10 Cystadleuaeth pêl rwyd yr Urdd.
1-2-09 Gala nofio ysgolion cylch Aberystwyth am 9.15am
8/9/10 -2-10 Ffair Llyfrau yr Ysgol 3.30-4.00yp 
15-2-10 Hanner Tymor
27-2-10 Dathliadau Dydd Gwyl Dewi - Bydd y plant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau i ddathlu Dydd Gwyl Dewi.  Mae yna groeso i'r plant ddod yn eu gwisgoedd Cymreig.
3-3-10 Eisteddfod Offerynnol Cylch Aberystwyth
4-3-10 Rhagbrofion Eisteddfod Aberystwyth
5-3-10 Eisteddfod yr Urdd - Cylch Aberystwyth
15-3-10 Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd.

Gwefan yr Ysgol
Mae gwybodaeth am thema a gwaith y tymor hwn ar safwe yr ysgol.  Hefyd, mae yna fanylion am ddyddiadau gwyliau a lluniau o'r prif weithgareddau a fu ymlaen yn yr ysgol y tymor diwethaf.  Mae cyfeiriad y safwe ar frig y dudalen hon.

Tywydd Garw
Os bydd rhaid i'r ysgol gau o ganlyniad i dywydd garw bydd cyhoeddiad ar Radio Ceredigion o 7 o'r gloch y bore ymlaen.  Os bydd rhaid cau yr ysgol yn ystod y dydd, dilynwn yr un drefn sef cyhoeddi ar y radio.  Wrth benderfynu i gau neu beidio, mae'n rhaid ystyried diogelwch y plant/rhieni wrth deithio i'r ysgol a hefyd diogelwch staff wrth deithio i'r ysgol.  Mae yna bosibilrwydd na fydd aelod o staff yn yr ysgol i ateb y ffôn ar y diwrnodau yma ac felly mae'r cysylltiad gyda Radio Ceredigion yn holl bwysig.  Os bydd yr ysgol yn cau, bydd yr ysgol Feithrin yn cau hefyd.

Ysgol Penweddig
Ar ddydd Mawrth 21ain o Ionawr bydd Mr Gwenallt Llwyd Ifan (Pennaeth) a Mrs Rhiannon Jones (Athrawes a gofal Blwyddyn 7) yn ymweld â'r ysgol i siarad gyda plant Blynyddoedd 5 a 6.  Byddant ar gael am 3.30-4.15yp  i roi cyflwyniad byr i rieni ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych .  Bydd croeso cynnes i unrhyw rhiant sydd â phlentyn yr oedran yma i ddod i'r cyfarfod.

Diolch yn fawr am eich cyd-weithrediad.


Yn gywir,

M Carruthers