Ysgol Gynradd Llanilar
Llanilar
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 4PA
8th September 2010
Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar
Llanilar
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 4PA
Prifathro: Mr M Carruthers
Ffon/Phone 01974 241 334
E bost/ E mail: prif@llanilar.ceredigion .sch.uk
Annwyl Rieni,
Croeso 'nol ar ol gwyliau hanner tymor. Dyma fanylion am rai digwyddiadau hyd at ddiwedd y tymor:
3-11-09 Bydd plant blwyddyn 4,5 a 6 yn ymweld a'r Ganolfan y Celfyddydau i wneud crochenwaith. Bydd angen tocyn bwyd.
9-11-09 Cyfarfod Blynyddol y Llywodraethwyr am 3.45yp
10-11-09 Cyfarfod y Cyfnod Sylfaen am 7.00yh yn yr ysgol.
11-11-09 Bydd yr Adran Iau yn ymweld â Chastell Henllys. Bydd angen tocyn bwyd. 13/16-11-09 Diwrnodau HMS. Dim ysgol i blant.
26-11-09 Ffair Nadolig y Gymdeithas Rieni ac Athrawon am 6.00yh.
4-12-09 Parti'r Henoed yn yr ysgol am 2.00yp.
7-12-09 Sioe Nadolig yn yr ysgol am 1.30yp. Mae mynediad trwy raglen ac mi fydd rhain ar gael o ddydd Llun 30ain o Dachwedd ymlaen. Cost £2.50.
8-12-09 Gwasanaeth Nadolig yn yr ysgol am 6.30yh. Mae mynediad trwy raglen ac mi fydd rhain ar gael o ddydd Llun 30ain o Dachwedd ymlaen. Cost £2.50.
11-12-09 - Ymweliad â'r sinema i weld 'Monster v Alien' Cost £1.50.
14-12-09 Dim nofio - ond bydd dosbarthiadau Miss Davies a Mr Carruthers yn mynd i'r gampfa.
15-12-09 Côr yr ysgol i ganu carolau yn Morrisons. Mae yna groeso cynnes i chi i ymuno a ni!
16-12-09 Parti Nadolig i'r plant 1.00yp - 3.30 yp. Bydd angen i blant dosbarthiadau Mrs Jones a Miss Roberts ddod â brechdanau a phlant dosbarth Miss Davies a Mr Carruthers i ddod â phethau melys ee bisgedi, cacennau a chreision. Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o staff.
17-12-09 - Cinio Nadolig yn yr ysgol. Os oes yna ddisgyblion sydd yn cael brechdanau ond am gael cinio Nadolig, rhowch wybod i Mrs Eldridge erbyn dydd Gwener, Tachwedd 27ain. Diolch.
18-12-09 - Ysgol yn cau am wyliau. Plant i wisgo dillad eu hunain a dod gemau i ysgol - 50c y plentyn. Ysgol yn gorffen am 1.30yp.
5-1-10 - Ysgol yn ail agor i blant.
Diolch yn fawr i bawb a chyfrannodd tuag at apel 'Yr Ambiwlans Awyr' - Codwyd £250 at yr apêl. Roedd diwrnod gwisgo fel 'seleb' yn llwyddiant hefyd. Cododd y Cyngor Ysgol dros £300 o bunnoedd ac mi fydd yr arian yn mynd tuag apêl yr Urdd 2010.
Amgaeaf holiadur a byddaf yn ddiolchgar pe baech yn gallu ei lenwi erbyn dydd Iau 12fed o Dachwedd. Fel Ysgol, gwerthfawrogwn unrhyw sylwadau adeiladol gallwn adeiladu arnynt. Yn dilyn sylwadau a ddaeth o'r holiadur diwethaf, rydym wedi sefydlu 'Clwb ar ôl ysgol' ac hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i'r plant cystadlu gyda'r Urdd.
Diolch yn fawr am eich cyd-weithrediad.
Yn gywir,
M Carruthers
© 2006 school trends - all rights reserved