Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Diwrnod 999

Ar Ddydd Gwener, yr unfed ar ddeg o Fedi, cynhaliwyd Diwrnod 999 yn yr Ysgol. Cafodd y disgyblion llawer o brofiadau a chyflwyniadau gwerthfawr i'w haddysgu am y gwasanaethau argyfwng. Dechreuwyd y diwrnod trwy gael dril tān ac arddangosfa o sosban sglodion ar dān. Cafodd y plant sypreis mawr wrth weld hofrennydd yr heddlu yn glanio ar gae Pźl-droed y pentref a cafwyd cyfle i weld yr hofrennydd a siarad gyda'r ddau beilot. Yn ystod y diwrnod, bu'r plant yn dysgu amrywiaeth o sgiliau o'r gwahanol gorsafoedd. Yn yr orsaf Diogelwch y Ffordd, bu plant yng Nghyfnod Allweddol 1 yn dysgu am groesi'r ffordd a'r plant yng Nghyfnod Allweddol 2 yn dysgu am reolau beicio. Bu'r plant yn dysgu cymorth cyntaf sylfaenol gyda cynrychiolydd o Ambiwlans St. Ioan a bu plant CA2 yn dysgu sut i adnewyddu bywyd gyda tīm arbennigol. Cafwyd cyfle hefyd i weld fan heddlu ac injan dān yn ystod y diwrnod. Bu plant CA2 yn darganfod cyfeirnod grid eu cartrefi gan ddefnyddio mapiau pwrpasol. Bu dynion tān, Gwylwyr y Glannau a'r Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn trafod eu gwaith ac yn siarad gyda'r plant am ddiogelwch a gwneud galwadau brys. Cafodd y diwrnod ei gloi gyda un o'r plant yn gwneud galwad brys 999.

Diolch i bawb a gyfranodd eu hamser i'n diwrnod 999!