Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Iaith

Y tymor hwn mi fydd plant blwyddyn 1 a 2 yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar, darllen ac ysgrifenedig a hyn gyda mewnbwn ymarferol. Pob bore mi fyddwn yn cael y cyfle i rannu a chlywed newyddion ein ffrindiau. Byddwn hefyd yn darllen a gwrando ar lu o storļau amrywiol yn cynnwys y storļau 'Yr arth a'r noson frawychus', 'Heddwch o'r diwedd', 'Seren Lowri'. Mi fyddwn yn chwarae rōl wrth ddefnyddio pypedau i gyd-fynd gyda storļau'r tymor.

Mathemateg

Mi fyddwn yn dod i adnabod gwerth rhifau dau, tri a phedwar digid a byddwn yn trefnu a ffurfio'r rhifau yma. Byddwn hefyd yn datblygu dulliau o weithio gyda rhifau ar lafar ac yn y pen wrth drin symiau adio a thynnu ac wrth fesur a phwyso. Yn ystod y flwyddyn byddwn yn gweithio gyda siāp, arian, amser a nifer o agweddau mathemategol eraill sydd yn rhan o'n bywydau pob dydd.

Gwyddoniaeth

Yn dilyn y thema sain a golau mi fyddwn ni yn adnabod ffynonellau golau a sain ac yn edrych i weld os oes mwy nag un swyddogaeth i'r ffynonellau. Byddwn yn chwarae a chysgodion ac yn gwrando ar y stori 'Dawns y cysgodion'. Mi fyddwn yn ymchwilio i weld os oes mwy nag un swyddogaeth i'r ffynonellau. Byddwn yn cael cyfle i edrych ar gylched trydan ac yn creu cylchedau ein hun.

Daearyddiaeth

Y tymor hwn mi fyddwn yn edrych ar dirlun Aberystwyth ac yn ei chymharu ā thirlun Llanilar. Byddwn yn adnabod nodweddion daearyddol ac yn cymharu'r nodweddion rhwng y ddwy ardal.

Cerddoriaeth

Mi fydd y plant yn gwrando ac yn dysgu amrywiaeth o ganeuon o Gymru ac yn gwrando a gwerthuso'r perfformiadau. Mi fyddwn yn dysgu am gyfansoddwyr en***** a dod i adnabod offerynnol amrywiol. Mi fyddwn yn mwynhau cael cyfle i gyfansoddi yn ein gwersi ac yna perfformio ein gwaith o flaen gweddill y dosbarth a'r ysgol yn ein gwasanaethau.

Celf

Tymor yma mi fyddwn yn edrych ar waith 'Starry starry night' gan Vincent Van Gogh ac yn ei gymharu ā gwaith artistiaid o Gymru. Mi fyddwn yn arbrofi a thechnegau a deunyddiau amrywiol ac yn y pen draw yn creu potyn o glai ac yn eu haddurno.

Ymarfer corff

Mi fyddwn yn derbyn gwersi nofio lle gobeithiwn gryfhau ein sgiliau a thyfu'n hyderus yn y pwll. Ynghyd a hyn mi fyddwn yn derbyn gwersi dawns/ gymnasteg ac mi fyddwn yn ymuno a'r dosbarth derbyn lle byddwn yn datblygu sgiliau'r bel, gwaith traed, maesu, batio, dal a thaflu a fydd yn ein harwain i chwarae gemau amrywiol.

Technoleg gwybodaeth

Y tymor hwn mi fyddwn yn cael y cyfle i ddatblygu ein sgiliau technoleg gwybodaeth o fewn pob gwers wrth ddefnyddio'r cyfrifiadur i dynnu lluniau, teipio gwaith, creu graffiau a hefyd wrth ddefnyddio camera digidol i gofnodi ein gwaith.