Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar

Llanilar

Aberystwyth

Ceredigion

SY23 4PA

Prifathro: Mr M Carruthers

Ffon/Phone 01974 241 334

E bost/ E mail: prif@llanilar.ceredigion .sch.uk

www.ysgolgynraddllanilar.co.uk

4 Medi 2009

Annwyl Rieni,

Croeso nôl ar ôl gwyliau'r haf. Gobeithio cafwyd amser da gan bawb. Croeso cynnes i'r plant newydd sef Glain, Leah, Dafydd, Cari, Lila, Holly, Eden, Owen, Cai a Hanna . Gobeithio y byddwn yn hapus iawn gyda ni yn yr ysgol.

Amgaeaf nifer o ffurflenni pwysig. Byddwn yn ddiolchgar petaech yn eu harwyddo a'i dychwelyd i'r athro/athrawes ddosbarth yn fuan. Diolch.

Gwefan yr Ysgol

Mae gwybodaeth am thema a gwaith y tymor hwn ar safwe yr ysgol. Hefyd, mae yna fanylion am ddyddiadau gwyliau a lluniau o'r prif weithgareddau a fu ymlaen yn yr ysgol y tymor diwethaf. Mae cyfeiriad y safwe ar frig y dudalen hon.

Clwb ar ôl Ysgol

Mae'r clwb ar ôl ysgol wedi ail-ddechrau ac yn rhedeg bob nos yn yr Hen Ysgol rhwng 3.30-5.30yp. Os dymunwch eich plentyn i fynychu y clwb a wnewch chi gysylltu â Miss Laura Rattray os gwelwch yn dda.

Clwb brecwast

Rydym yn gobeithio dechrau clwb brecwast o gwmpas hanner tymor. Byddaf yn gobeithio os allwch chi arwyddo y ffurflen amgaeedig os oes diddordeb gennych.

Chwaraeon

Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r gampfa yng Nghanolfan Hamdden Plascrug bob dydd Llun (yr un amser â gwersi nofio). Bydd un dosbarth yn gwneud gymnasteg tra fydd y ddau ddosbarth arall yn mynd nofio. Bydd dosbarth Mrs Jones yn defnyddio yr Hen Ysgol ar gyfer chwaraeon. Bydd angen mynd â dau fws felly gofynnaf am gyfraniad o 50c y plentyn yr wythnos tuag at y gost. Mae'n bosib talu yn wythnosol neu bob hanner tymor. Cost am y hanner tymor yma bydd £3.50. Bydd Mrs Eldridge neu Miss Evans ar gael bob dydd Llun i gasglu yr arian.

Amgaeaf amserlen nofio, gymnasteg a chwaraeon ar gyfer y tymor:

Dosbarth Mrs Jones': Dydd Mawrth a dydd Iau

Dosbarth Miss Roberts: Dydd Llun a dydd Iau

Dosbarth Miss Davies: Dydd Llun, a dydd Gwener.

Dosbarth Mr Carruthers: Dydd Llun a dydd Gwener.

Bydd angen i'r plant ddod â chrys-T, siorts ac esgidiau addas ar gyfer gwersi Ymarfer Corff a gymnasteg.

Mae'n bwysig fod pob plentyn yn cymryd rhan mewn gwersi Addysg Gorfforol a byddaf yn ddiolchgar eich bod yn sicrhau fod y plant yn dod â dillad addas ar y diwrnodau cywir. Diolch yn fawr.

Bydd gwersi offerynnol yn dechrau cyn hir. Dyma'r amserlen;

Ffidil - i'w gadarnhau

Trwmped - Dydd Mawrth

Chwythbrennau - Dydd Llun

Gwaith Cartref

Bydd gwaith cartref i'r plant Iau. Byddwn yn defnyddio'r llyfrau Letts a gofynnwn am gyfraniad o £4.00 y plentyn. Bwriadwn osod gwaith cartref ar ddydd Gwener a derbyn y gwaith yn ôl ar ddydd Mawrth. Diolch yn fawr.

Arian

Gallwch sirchau fod unrhyw arian sydd yn dod i'r ysgol yn cael ei rhoi mewn amlen ac yn cael ei rhoi i'r athro/athrawes ddosbarth os gwelwch yn dda. Dylai pob siec fod yn daladwy i Ysgol Gynradd Llanilar heblaw am sieciau arian cinio - Cyngor Sir Ceredigion.

Mae arian cinio wedi codi i £1.80 y dydd neu £9.00 yr wythnos.

Clwb Cynilo

Bydd clwb cynilo yn dechrau dydd Llun nesaf. Croeso cynnes i aelodau newydd (Gweler Mrs Eldridge).

Dyma rhai gweithgareddau y tymor yma:

11-9-09 Diwrnod 999 argyfwng i gael ei gynnal yn yr ysgol.

14-9-09 Clwb yr Urdd yn dechrau. Bydd y clwb yn rhedeg o 3.30yp - 4.30yp. Bydd unrhyw blentyn sydd am fynychu y Clwb ar ôl ysgol ar ôl clwb yr Urdd yn cael ei arwain i'r Hen Ysgol gan aelod o staff.

15-9-09 Ffotograffydd Malcolm Slater yn ymweld â'r ysgol.

21-9-09 Noson Rieni - Bydd rhestr o amseroedd ar gael yn y dosbarthiadau o ddydd Gwener, Medi 18ed ymlaen. Dewiswch amser sydd yn gyfleus i chi.

24-9-09 Cyfarfod blynyddol 'Clwb ar ôl ysgol' am 3.30yp yn yr ysgol. Croeso cynnes i bawb.

12-10-09 Bydd dosbarthiadau Miss Jones a Miss Roberts yn mynd i'r Sbri -di-ri yn Aberystwyth. Cost £1.50

26/10- 30/10 - 09 Hanner Tymor

Oherwydd y pwysau sydd ar y plant i baratoi ar gyfer y sioe Nadolig a gweithgareddau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2010, bwriadwn gynnal Cwrdd Diolchgarwch i'r plant a staff yn unig.

Dyddiadau Hyfforddiant Mewn Swydd 2009-10

Tachwedd 13

Tachwedd 16

Ionawr 4

Mawrth 15

Diolch yn fawr am eich cyd-weithrediad.

Yn gywir,


M Carruthers