Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar
Llanilar
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 4PA
Prifathro: Mr M Carruthers
Ffon/Phone 01974 241 334
E bost/ E mail: prif@llanilar.ceredigion .sch.uk
www.ysgolgynraddllanilar.co.uk
Annwyl Rieni,
Croeso nol ar ol gwyliau hanner tymor. Dyma restr o ddigwyddiadau hyd at ddiwedd y tymor:
3-6-09 Taith seiclo/cerdded. Pawb sydd am feicio i sicrhau fod helmed ganddynt. Diolch.
5-6-09 Angen i blant CA2 dychwelyd eu cyweithiau i'r ysgol.
8 -6-09 Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Rieni ac Athrawon am 3.45yp. Croeso cynnes i bob rhiant. Hoffai'r gymdeithas gael tri aelod newydd i ymuno a'r Pwyllgor erbyn mis Medi. Pwrpas mwyaf y Gymdeithas Rieni ac Athrawon yw i godi arian i brynu adnoddau sydd yn elwa'r plant i gyd. Os oes diddordeb gennych i ymuno a'r pwyllgor, dewch i fy ngweld i cyn dydd Gwener. Diolch yn fawr.
12-6-09 Mae taith gerdded yr Urdd wedi cael ei ohirio.
15-6-09 Diwrnod Mabolgampau yr ysgol am 1yp. Croeso cynnes i rieni. Os fydd y tywydd yn wael, cynhelir y mabolgampau ar ddydd Mawrth.
23-6-09 Ffair Haf yr Gymdeithas Rieni ac Athrawon am 6yh. (Mwy o fanylion i ddilyn)
26-6-09 Trip CA2 i Oakwood. Byddwn yn gadael am 8.00 yb ac yn dychwelyd erbyn 5yh. Bydd angen tocyn bwyd a chot glaw. Cost £11 y plentyn.
30-6-09 Bydd dosbarth Mrs Prytherch a Miss Roberts yn mynychu theatr Felinfach i weld Rala Rwdins (dim cost)
1-7-09 Mabolgampau Cylch Aberystwyth. Bydd angen i'r plant sydd yn cynrychioli'r ysgol ddod a thocyn bwyd ac eli haul.
8-7-09 Trip y babanod i Quackers. Cost £4.50 y plentyn. Bydd angen tocyn bwyd.
9-7-09 Blwyddyn 3-6 yn ymweld a Sain Ffagan i gymeryd rhan mewn Diwrnod Hwyl yr Urdd. Byddwn yn gadael am 7.45yb ac yn dychwelyd am 6.30yh. Bydd angen tocyn sylweddol ar gyfer cinio a swper. Dim cost.
10-7-09 Bl 5 a 6 yn mynychu Gwyl Ffilmiau Ceredigion.
13-7-0 9 Gwasanaeth Ffarwelio a Bl 6 am 9.30yb. Croeso cynnes i bawb.
17-7-09 - Diwedd tymor. Gall y plant wisgo dillad eu hunain a dod a gemau i'r ysgol - cost £1.00. Ysgol yn cau am 1.30yp.
Hoffwn dderbyn arian ar gyfer y tripiau erbyn Mehefin 24ain os gwelwch yn dda. Diolch. Rwyf yn ymwybodol bod cost y trip wedi codi ychydig ac felly wedi trefnu trip i'r babanod ac i'r Iau am ddim - (Rala Twdins a Sain Ffagan.) Diolch yn fawr i'r Gymdeithas Rienia ac Athrawon am dalu cost am ddau fws i'r tripiau diwedd blwyddyn. Mae hyn yn elwa holl ddisgyblion yr ysgol.
Rydym dal i casglu tocynnau Flora ac yn gobeithio prynu ffwrn newydd.
Diolch am eich cyd-weithrediad parhaol,
Yn gywir
M Carruthers