Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Cymraeg

Bydd y disgyblion yn ymgymryd â nifer o weithgareddau gloywi iaith, yn amrywio o ymarfer berfau yn y presennol a'r gorffennol, i drosi brawddegau o'r cadarnhaol i'r negyddol a gwella sillafu. Bydd gofynion rhai tasgau yn cynnwys ysgifennu llythyrau ac adroddiadau, creu holiadur a chwarae, i gyd yn seiliedig ar stori Owain Glyndŵr. Cawn hefyd gyfle i ddarllen ac ymateb i gerddi gan feirdd adnabyddus yng Nghymru.

Yn ogystal â'r gwaith hwn, byddwn yn cyflawni gweithgareddau gloywi iaith yn dymhorol, sef gweithgareddau darllen a deall, gwaith ar ramadeg y Gymraeg, a sgiliau gwrando. Rydym yn cael cyfleoedd hefyd i ddarllen yn annibynnol yn y dosbarth ac ehangu ein gwybodaeth o lyfrau ac awduron Cymraeg drwy lenwi adolygiadau byr o'r holl lyfrau rydym yn eu darllen.

Saesneg

Bydd nifer o waith tymor yma yn cael ei seilio ar y llyfr 'The Lion, the Witch and the Wardrobe' gan CS Lewis

Byddan nhw hefyd yn gwrando ar y tap. ac yn cymharu gyda'r fideo. Byddan nhw hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn nifer o drafodaethau.

Bydd yna nifer o dasgau ysgrifenedig yn cynnwys tasagau darllen a deall ac ysgrifennu creadigol. Bydd pwyslais hefyd ar ymarfer a gwella llawysgrifen.

Mathemateg

Bydd y plant yn dechrau'r flwyddyn trwy edrych ar y pedwar rheol rhif. Bydd disgwyliadau ar y plant i ddysgu eu tablau. Byddwn yn edrych ar y perthynas rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau.adolygu yr holl dasgau yr ydym wedi cyflawni yn ystod y flwyddyn yn ogystal a gwneud gwaith newydd. Bydd y plant yn gweithio'n annibynnol, mewn grwpiau a fel dosbarth cyfan. Byddwn yn dal i weithio ar waith mathemateg pen.

Gwyddoniaeth

Ein thema ni y tymor yma yw 'Sain a golau'. Byddwn yn edrych yn arbennig ar cylchredau. Bydd y plant yn creu cylchredau syml sy'n cynnwys ac i ystyried effaith o gael mwy o batrys nue bylbiau ar y cylchred. Byddwn yn edrych ar olau a sut maen teithio ac hefyd effaith golau ar gysgodion. Byddwn yn edrych ar swn a thonnau swn. Yn ystod y tymor bydd y plant yn cael y cyfle i wneud nifer o wahanol arbrofion yn seiliedig ar y thema.

Addysg Grefyddol

Byddwn yn canolbwyntio'n bennaf ar wyliau crefyddol y tymor hwn. Bydd y disgyblion yn dysgu sut y mae gwahanol grefyddau yn cael cyfnodau o feddwl dwys a gweithio'n galed sy'n arwain at ddathliadau a gwyliau arbennig. Byddant wedyn yn trafod eu profiadau personol a'u syniadau eu hunain. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddysgu am gyfnod y Ramadan a gŵyl Eid ul Fitr i'r Mwslemiaid, a chyfnod y Grawys yn arwain at y Pasg.

Bydd peth o'r gwaith yn seiliedig ar sut yr ydym ni yn gallu rhoi gobaith i bobl yn y Trydydd Byd trwy gefnogi mentrau fel Masnach Deg.

Dyniaethau

'Y Celtiaid' fydd thema Hanes y tymor hwn. Byddant yn edrych ar arteffactau o Oes y Celtiaid ac yn ceisio dyfalu beth oedd eu swyddogaeth, yn trafod cymdeithas y Celtiaid, ac yn edrych ar eu gwyliau arbennig. Fel rhan o'r cynlluniau, byddant yn cael ymweld â bryncaer Castell Henllys yn Sir Benfro, ac yn cael blas ar fywyd y Celtiaid.

Yn y gwersi Daearyddiaeth, byddwn yn canolbwyntio ar Gymru yng nghyd-destun Ewrop. Bydd y disgyblion yn dysgu enwau rhai o wledydd Ewrop ac yn eu lleoli ar fapiau ac atlasau. Byddant yn cael cyfle i ychwilio'n annibynnol ac mewn grwpiau i nodweddion, allforion, tywydd a tirwedd y gwledydd, yn ogystal â dod o hyd i ffeithiau diddorol.

Addysg Gorfforol

Bydd y plant yn parhau i fynd nofio ac i gymnasteg yn ystod y tymor. Byddwn hefyd yn gwneud gemau a bydd y plant yn chwarae pêl dred, hoci rygbi a phêl rwyd. Bydd plant CA2 yn cynrychioli'r Ysgol yn cystadleuaeth mabolgampau ysgolion cylch Aberystwyth.

Technoleg Gwybodaeth

Bydd y plant yn ddefnyddio'r cyfrifiaduron mewn amryw o ffyrdd. Byddwn yn prosesu geiriau, danfon a derbyn e-bost ac ymchwilio am wybodaeth o'r wê Byddwn hefyd yn ddefnyddio'r camera digidol a gweithio gyda'r bwrdd gwyn rhyngweithiol ac adnoddau technelegol yn yr Ysgol.

Celf

Y tymor hwn, bydd y disgyblion yn edrych yn fanwl ar enghreifftiau o gerfluniau, a gwaith artistiaid fel Tim Pugh. Byddant yn cynllunio cerflun amgylcheddol i'r ysgol, ac yn arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau. Byddant hefyd yn ceisio creu cerflyn dros dro gan ddefnyddio adnoddau naturiol, gan werthuso eu gwaith wrth iddo ddatblygu.