Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Hanes

Yn ystod y tymor fe fyddwn yn astudio'r "Oes Fictoria." Byddwn yn edrych ar y Frenhines Fictoria ac yn dysgu am sut oedd plant yn byw yn y cyfnod gan edrych ar arferion chwarae, ysgol ac amser hamdden. Byddwn hefyd yn dysgu am Dr Barnardo ar waith buodd ef yn ei wneud. Byddwn yn edrych ar dai pobol gyfoethog a thlawd o'r "Oes Fictoria."

Addysg Grefyddol

Byddwn yn edrych ar arferion Cristnogion ag Iddewig gan edrych sut y meant yn dilyn rheolau, pa mor bwysig mae rheolau yn ein bywydau gan edrych ar y 10 gorchymyn. Byddwn yn son pa mor bwysig yw hi i barchu ei gilydd ag eraill gan edrych ar nodweddion Nadoligaidd erbyn diwedd y tymor.

Daearyddiaeth

Yr ardal leol bydd ein ffocws am y tymor sef pentref Llanilar. Byddwn yn edrych ar leoliad y pentref a ble i'w osod ar fap gan ddysgu am nodweddion ffisegol a dynol yr ardal leol. Byddant yn ehangu ei gwybodaeth am yr ardal leol gan edrych ar amrywiaeth o fapiau.

Mathemateg

Yn ystod y tymor fe fyddwn yn adio a thynnu rhifau, adnabod ffracsiynau ac adnabod gwerth lle. Mi fyddwn hefyd yn trafod data gan edrych ar siart amledd gan greu graffiau ar y cyfrifiadur, arsylwi a dysgu am nodweddion siapiau 2D a 3D. Byddwn yn edrych ar hyd gwrthrychau gan ddefnyddio pren mesur a dysgu am mm a cm. Byddwn hefyd yn edrych ar amser gan atgyfnerthu ein tablau a dysgu rhannu syml.

Celf

Vincent Van Goch bydd yr arlunydd y byddwn yn dysgu amdano'r tymor yma ac fe fyddwn yn edrych ar nifer o'u luniau gan geisio ail greu rhai ohonynt. Byddwn yn dysgu am sut i greu portreadau a bydden yn ceisio creu portreadau ohonom ni ein hunain.

Saesneg

Byddwn yn ysgrifennu barddoniaeth ni ein hunan ar ddechrau tymor - cwpledi a barddoniaeth mewn siāp arbennig. Symudwn ymlaen wedyn i ddarllen llyfr "Fair's Fair" gan ddehongli ystyr y teitl a chreu poster a rhagfynegi diweddglo'r stori. Byddwn yn atgyfnerthu ac atgoffa ein hunan o bwyntiau gramadegol - prif lythyren, atalnod llawn, marc cwestiwn.

Cymraeg

"Yr Hen Wraig a'r Pedwar Sŵn" yw'r llyfr y byddwn yn seilio nifer o weithgareddau'r tymor arno. Byddwn yn dysgu sut i ysgrifennu portread am bobol gan ysgrifennu sgwrs a dyddiadur drwy lygaid gwahanol gymeriadau yn y llyfr. Byddwn hefyd yn ysgrifennu cerdd ein hunan ac yn darllen am "Nadolig Papa Panoff."



Addysg Gorfforol

Yn ystod y tymor mi fyddwn yn datblygu ein sgiliau gymnasteg gan ehangu ein symudiadau, gweithio fel unigolyn, mewn pār a fesul grŵp gan werthuso gwaith ein gilydd. Byddwn yn parhau i atgyfnerthu ein sgiliau nofio ac yn datblygu sgiliau gźmau a sgiliau chwarae mewn tīm.

TGCH

Yn ystod y tymor byddwn yn defnyddio prosesydd geiriau gan newid lliw a maint y ffont, safio'r gwaith a'i argraffu gan hefyd gosod llun o clip art i mewn i'w gwaith. Byddwn hefyd yn edrych ar graffiau a chreu graffiau ar y cyfrifiadur a'u argraffu. Byddwn yn datblygu ein sgiliau sillafu, mathemateg a theipio gan ddefnyddio cd-roms priodol gan ehangu ar ein gwybodaeth ar yr Oes Fictoria. Byddwn hefyd yn defnyddio camera yn ein gwaith.

Gwyddoniaeth

Edrych ar ba fwydydd sydd yn iach iddon ni a pha faeth y maent yn rhoi iddon ni y byddwn ni'r tymor yma gan ddysgu am y wahanol fathau o fwyd sydd ar gael protein e.e. Edrychwn ar swyddogaeth y dannedd a dysgu sut yr ydyn ni'n symud. Byddwn yn dysgu am gylch bywyd bodau dynol a sut mae 'r gwaed yn teithio o amgylch y corff. Byddwn hefyd yn dysgu am swyddogaeth y galon ac am gyffuriau.

Dylunio Technoleg

Gan taw brif thema'r tymor yw "Ni ein Hunan" byddwn yn dysgu am sut i ofalu a beth mae ein corff ni yn gwneud. Felly bwyd byddwn yn dysgu amdano yn nylunio technoleg felly byddwn yn cynllunio, creu a gwerthuso salad ffrwythau. Byddwn hefyd yn creu carden Nadolig.

Cerddoriaeth

Yn ystod y tymor fe fydd y disgyblion yn dysgu caneuon newydd yn ymwneud a'r thema ac yn dysgu chwarae'r recorder. Byddant yn paratoi at Ddiolchgarwch a'r Nadolig a rhai yn perfformio a'r offerynnau nhw ei hunan. Cawn gyfle i berfformio, cyfansoddi a gwerthuso gwaith ei gilydd.