Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Hanes

Yr Ail Ryfel Byd y byddwn yn astudio am gyfnod yn ystod y tymor cyn symud i edrych ar gyfnod arall yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg sef y chwechdegau. Agwedd newydd yn dilyn y fframwaith sgiliau. Byddwn yn edrych ar ymgilio, dogni, bywyd bod dydd yn yr Ail Ryfel byd a dillad, cartrefi a digwyddiadau hanesyddol yn y chwechdegau.

Addysg Grefyddol

Arweinwyr bydd y prif ffocws am y tymor ac fe fyddwn yn edrych ar waith y ficer, pregethwr ar Rabbi. Byddwn hefyd yn dysgu am straeon o'r Beibl gan gynnwys bedyddio Iesu Grist a'r deuddeg disgybl.Byddwn hefyd yn dysgu am stori'r Pasg.

Daearyddiaeth

"Teithio i'r Ysgol" bydd prif ffocws ein hymchwiliad daearyddol. Byddwn yn edrych ar sut mae plant yn teithio i'r Ysgol ac yn edrych ar effaith hyn ar yr amgylchedd. Bydd rhaid trin a thrafod data gan edrych yn wrthrychol wrth roi dadl at ei gilydd.

Mathemateg

Byddwn yn atgyfnerthu'r pedwar rhif yn ystod y tymor gan ddysgu hefyd i dalgrynnu rhifau, defnyddio arian yn gywir, adnabod ffracsiynau cyfwerth, siapiau cymesuredd, a dehongli data. Byddwn hefyd yn adnabod rhifau negyddol.

Celf

Byddwn yn arsylwi ac yn braslunio gwahanol adeiladau yn y pentref gan creu lluniau gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau - megis ar y cyfrifiadur a peintio'r llun. Byddwn yn arbrofi i geisio creu lluniau o gylchgronnau a chamerau digidol i gyfleu eu bod nhw'n symud. Gwerthfawrogi gwaith Stuart Evans "Sea Flower" o Gymru.

Saesneg

"Big Tom" yw'r llyfr byddwn yn darllen yn ystod y tymor. Llyfr yn seiliedig a'r helyntion yr Ail Ryfel Byd. Byddwn yn ysgrifennu cyfarwyddiadau, dyddiadur a deialog o'r llyfr gan ehangu ar ein sgiliau o atalnodi a ansoddeiriau. Byddwm hefyd yn ysgrifennu stori - gan dechrau deall y dechneg sydd angen mewn stori gan gynnwys dechrau, canol, diwedd.

Cymraeg

" Y Ffordd berysglus" gan T Llew Jones buddwn yn darllen yn ystod y tymor ac fe fyddwn yn ymateb i'r stori gan greu poster, ehangu ansoddeiriau, cywirdeb sillfau, ysgrifennu cerdd, cymhariaethau a llythyr personol. Byddwn yn ymateb i gerdd "Lleidr Pen-ffordd" hefyd.


Addysg Gorfforol

Byddwn yn parhau i nofio a chael gwersi gymnasteg yn y Ganolfan Hamdden yn ystod y tymor ac yn ehangu ein sgiliau mewn gemau megis Pêl rhwyd, rygbi, Hoci a Phêl droed.

TGCH

Byddwn yn tynnu lluniau unigol gan ddefnyddio pecyn "Paint" ac yn defnyddio'r camera digidol i efelychu'r teimlad o symud yn y lluniau. Bydd y plant yn defnyddio prosesydd geiriau i osod eu gwaith ac yn defnyddio rhaglen "2Type" i ehangu ar ei sgiliau o ddefnyddio allweddell.

Gwyddoniaeth

Grymoedd bydd brif ffocws y tymor ac mi fyddwn yn dysgu am waith magnetau a grym gwthiadau. Byddwn yn edrych ar wrthiant aer ac yn dysgu sut mae gwahanol rymoedd yn gweithredu ar yr un gwrthrych. Byddwn hefyd yn edrych ar rymoedd ffrithiannol gan edrych ar y ddaear mewn cysylltiad â'r planedau eraill.

Dylunio Technoleg

Byddwn yn dylunio, creu a gwerthuso anghenfil symudol yn ystod y tymor yma gan arsylwi ar wahanol wrthrychau sydd yn symud a phenderfynu pa ffordd sydd orau. Byddwn yn creu rhai unigol ac yna yn gwerthuso beth sydd yn dda a ddim cystal am yr anghenfil.

Cerddoriaeth

Yn ystod y tymor fe fydd y disgyblion yn dysgu caneuon newydd yn ymwneud a'r thema ac yn dysgu chwarae'r recorder. Cawn gyfle i berfformio, cyfansoddi a gwerthuso gwaith ei gilydd.