Yn sgìl dechreuad newydd ym myd addysg mi fydd y sgiliau angenrheidiol sef sgiliau meddwl, rhifedd, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn ganolbwynt i wersi blwyddyn 1 a 2 y flwyddyn hon.
Iaith
Y tymor hwn mi fydd plant blwyddyn 1 a 2 yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar, darllen ac ysgrifenedig a hyn gyda mewnbwn ymarferol. Pob bore mi fyddwn yn cael y cyfle i rannu a chlywed newyddion ein ffrindiau. Byddwn hefyd yn darllen a gwrando ar lu o storïau amrywiol yn cynnwys y storïau 'Ffrindiau' gan Rob Lewis, 'Gwlad yr Hetiau' a 'Pen-blwydd Ianto'. Mi fyddwn yn chwarae rôl wrth ddefnyddio pypedau y byddwn yn ei greu a hefyd yn 'Siop y Pentref' lle cawn y cyfle i rannu a chware gyda'n ffrindiau.
Mathemateg
Mi fyddwn yn dod i adnabod gwerth rhifau dau ddigid a byddwn gallu trefnu a ffurfio'r rhifau yma. Byddwn hefyd yn datblygu dulliau o weithio gyda rhifau ar lafar ac yn y pen wrth drin symiau adio a thynnu ac wrth fesur a phwyso. Yn ystod y flwyddyn byddwn yn gweithio gyda siâp, arian, amser a nifer o agweddau mathemategol eraill sydd yn rhan o'n bywydau pob dydd.
Gwyddoniaeth
Yn unol â thema 'fi fy hun' mi fyddwn yn dysgu am ein cyrff a phrosesau bywyd, sef y pethau sydd ei angen arnom i gadw'n fyw ac yn iach. Byddwn yn dysgu am fwydydd sydd yn iach ac yn afiach ac yn deall fod bwyta bwydydd iach yn dda i ni.
Daearyddiaeth
Mi fyddwn yn canolbwyntio ac yn edrych ar safleoedd gwahanol yn yr ysgol a'r tir sydd yn amgylchynu'r ysgol. Mi fyddwn yn trafod a dod i ddeall pwrpas y safleoedd ar gyfer gweithgareddau sydd wedi ei benodi i'r lleoliadau yma. Byddwn hefyd yn edrych ar gynnyrch o Gymru a gwledydd gwrthgyferbyniol lled y byd. Byddwn yn defnyddio'r glôb i drafod ac arsylwi o le daw'r holl fwydydd yma.
Cerddoriaeth
Mi fydd y plant yn gwrando ac yn dysgu amrywiaeth o ganeuon o Gymru ac yn gwrando a gwerthuso caneuon o wledydd eraill wrth sylwi ar elfennau gwrthgyferbyniol cerddorol y gwledydd. Mi fyddwn yn mwynhau cael cyfle i gyfansoddi yn ein gwersi ac yna perfformio ein gwaith o flaen gweddill y dosbarth.
Celf
Y tymor hwn mi fyddwn yn canolbwyntio ar waith hunan bortread Y teulu John o Becyn Dyfed ac mi fyddwn yn rhoi cynnig ar arlunio hunan bortread o'n hunain. Wrth wneud hyn mi fyddwn yn arbrofi gyda gweadau a deunydd dylunio amrywiol. Mi fyddwn hefyd yn arbrofi gyda thechnegau arlunio gwahanol wrth beintio gyda'n dwylo, brwsh paent, sbwng a phrintio.
Ymarfer corff
Mi fyddwn yn cymryd rhan mewn gwersi nofio am yn ail wythnos am y tymor hwn, lle gobeithiwn gryfhau ein sgiliau a thyfu'n hyderus yn y pwll. Mi fyddwn hefyd yn cael y cyfle i ymuno â'r dosbarth derbyn pob dydd iau lle byddwn yn ymarfer sgiliau'r bel, gwaith traed, maesu a batio.
Technoleg gwybodaeth
Y tymor hwn mi fyddwn yn cael y cyfle i ddatblygu ein sgiliau technoleg gwybodaeth o fewn pob gwers wrth ddefnyddio'r cyfrifiadur i dynnu lluniau, teipio gwaith, creu graffiau a hefyd wrth ddefnyddio camera digidol i gofnodi ein gwaith.
Hanes
Y tymor hwn, byddwn yn edrych ar deganau'r gorffennol yn ystod y gwersi hanes. Bydd y plant yn ystyried beth yw'r gwahaniaeth rhwng eu hoff deganau hwy a theganau'r gorffennol, a'n cael cyfle i greu hen deganau.
Dylunio a Thechnoleg
Byddwn yn edrych ar dechnoleg bwyd yn ystod y tymor hwn. Byddwn yn canolbwyntio'n bennaf ar frechdannau yn edrych ar wahanol lenwadau a'n eu creu fel dosbarth. Byddwn hefyd yn ystyried diogelwch bwyd yn ystod y gwersi.
Addysg Grefyddol
Byddwn yn edrych ar wahanol arferion yn ystod y tymor yn ein gwersi Addysg Grefyddol, gan edrych yn bennaf ar Gristnogion ac Iddewon. Bydd y plant hefyd yn ystyried teimladau ac am ddigwyddiadau teuluol, gan ystyried grwpiau arbennig o fewn ein cymuned.
ABCH
Yn ystod y tymor, bydd y plant yn ystyried sut i ddatblygu'n hyderus a chyfrifol, ac ystyried sut i wneud penderfyniadau cyfrifol. Bydd y plant hefyd yn cael cyfle i weithio gyda'u gilydd mewn grwpiau i greu rheolau cyfrifol ac ystyried sut i gynnal perthnasau yn lwyddiannus, a sut mae ymddygiad yn effeithio ar eraill.