Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Iaith

Y tymor hwn mi fydd plant blwyddyn 1 a 2 yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar, darllen ac ysgrifenedig a hyn gyda mewnbwn ymarferol. Pob bore mi fyddwn yn cael y cyfle i rannu a chlywed newyddion ein ffrindiau. Byddwn hefyd yn darllen a gwrando ar lu o storïau amrywiol yn cynnwys y storïau 'Trip Ned Puw', 'Dyna beth dwl' a 'Beth nesaf?'. Mi fyddwn yn creu ardal chwarae rôl gan ddilyn y thema teithio ac yma fe gawn ni'r cyfle i chwarae rôl gyda'n ffrindiau.

 

Mathemateg

Mi fyddwn yn dod i adnabod gwerth rhifau dau ddigid a gallwn drefnu a ffurfio'r rhifau yma. Byddwn hefyd yn datblygu dulliau o weithio gyda rhifau ar lafar ac yn y pen wrth drin symiau adio a thynnu ac wrth fesur a phwyso. Yn ystod y flwyddyn byddwn yn gweithio gyda siâp, arian, amser a nifer o agweddau mathemategol eraill sydd yn rhan o'n bywydau pob dydd.

 

Gwyddoniaeth

Yn unol â thema 'teithio' mi fyddwn yn dysgu am gerbydau a sut maent yn symud. Mi fyddwn hefyd yn edrych ar rymoedd tynnu a gwthio wrth ddeall y gwahaniaeth rhwng y ddau, ac ymchwilio i weld os yw'r grymoedd yma yn effeithio ar gyflymdra.

 

Daearyddiaeth

Mi fyddwn ni'n trafod sut rydyn ni'n teithio i'r ysgol, ac yn trafod gwahanol ffyrdd o deithio i wahanol ardaloedd yn y byd a thu hwnt megis cwch, awyren neu roced. Bydd y plant yn cael y cyfle i archwilio i weld sut mae pobl o wahanol wledydd yn teithio ac yn eu cymharu â sut rydyn ni'n teithio.  Byddwn hefyd yn edrych ar nodweddion ffisegol a dynol Caerdydd ac yn eu cymharu ag Aberystwyth.

 

Cerddoriaeth

Mi fydd y plant yn ymchwilio ac yn cael cyfle i chwarae offerynnau amrywiol wrth ddod i adnabod sut i chwarae'r offerynnau mewn amryw ffyrdd gwahanol.  Mi fyddant yn cael y cyfle i gyfansoddi ac i berfformio o flaen gweddill y dosbarth.

  

Celf

Y tymor hwn mi fyddwn yn arbrofi gyda gweadau amrywiol wrth ychwanegu cynhwysion amrywiol at baent.  Byddwn hefyd yn edrych ac yn gwerthfawrogi gwaith Allen jones wrth geisio efelychu ei waith 'buses'.

 

Ymarfer corff

Mi fyddwn yn cymryd rhan mewn gwersi nofio am yn ail wythnos am y tymor hwn, lle gobeithiwn gryfhau ein sgiliau a thyfu'n hyderus yn y pwll. Mi fyddwn hefyd yn cael y cyfle i ymuno â'r dosbarth derbyn pob dydd iau lle byddwn yn ymarfer sgiliau'r bel, gwaith traed, maesu a batio.

 

Technoleg gwybodaeth

Y tymor hwn mi fyddwn yn cael y cyfle i ddatblygu ein sgiliau technoleg gwybodaeth o fewn pob gwers wrth ddefnyddio'r cyfrifiadur i dynnu lluniau, teipio gwaith, creu graffiau a hefyd wrth ddefnyddio camera digidol i gofnodi ein gwaith.