Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Ein thema'r tymor hwn yw Teithio. Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu. Byddwn yn seilio ein gwaith ar straeon sy'n addas i'r thema e.e. Nel Dwy L, Bydd yn ofalus Ceri Ann, Trip Ned Puw, Car Swnllyd Mr Bach, Yr Hugan Goch Fach, Beth nesaf? ac ati. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys gwrando ar straeon, chwarae gemau amrywiol, chwarae rôl, defnyddio'r cyfrifiadur ac ati. Bydd cyfle i ddysgu llawer o ganeuon a rhigymau newydd. Defnyddir Technoleg Gwybodaeth i hybu sgiliau gwrando, datblygu iaith ac i helpu dysgu llythrennau.

Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

Bydd y plant yn cael cyfleoedd i chwarae yn unigol, mewn parau ac mewn grŵp. Ceir cyfle i rannu profiadau ac i wrando yn ogystal â siarad e.e. yn ystod amser newyddion, amser cylch ac ati. Byddwn yn darllen straeon sy'n cyd-fynd â'r thema e.e. Stori Noa, Ifan Tom yn cael help (Y Samariad Trugarog), Beibl Mari Jones a stori'r Pasg. Byddwn yn siarad am deimladau ac yn gwahaniaethu rhwng ymddygiad derbyniol ac annerbyniol. Byddwn hefyd yn trafod arweinwyr a phobl sydd ag awdurdod dros blant yn yr Ysgol, yn y cartref ac yn y gymuned.

Datblygiad Mathemategol

Yn ystod y tymor bydd y plant yn cael cyfle i rifo, cyfri a dysgu rhigymau a chaneuon rhif. Byddwn hefyd yn ymchwilio siâp, safle a symud, datrys problemau ac ymchwilio mesuriadau, trin data yn ogystal â dechrau deall a defnyddio iaith adio a thynnu. Byddwn yn siarad am iaith amser yn ddyddiol drwy ganu caneuon ac adolygu dyddiau'r wythnos, misoedd y flwyddyn a'r tymhorau. Bydd cyfle i chwarae nifer o gemau mathemategol ar CD-ROMs y dosbarth ac ar raglenni gwe.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd

Byddwn yn edrych ar le mae'r plant yn byw ac yn dysgu am enwau llefydd lleol. Bydd y plant yn cael y cyfle edrych ar ac i greu mapiau syml ac i drafod tirnodau cyfarwydd. Bydd y plant yn gallu lleisio'u hoff a'u cas bethau yn yr amgylchedd.

Byddwn yn archwilio mewn i wahanol fathau o deithio ac yn edrych ar sut mae trafnidiaeth wedi newid dros amser. Bydd y plant yn cael y cyfle i edrych ar a chymharu arteffactau mewn termau syml. Byddwn yn creu siop deithio yn y dosbarth a bydd y plant yn trafod eu hoff wyliau ac yn creu cardiau post.

Byddwn yn disgrifio'r tywydd yn ddyddiol ac yn cymryd diddordeb yn y tir o gwmpas yr ysgol. Anogir y plant i adnabod a disgrifio'r prif nodweddion.

Byddwn yn gwrando ar straeon addas i ddysgu am y gorffennol e.e. Santes Dwynwen, Dewi Sant, Barti Ddu.

Datblygiad Creadigol

Byddwn yn dysgu caneuon a rhigymau newydd sy'n cyd-fynd â'r thema e.e. Olwynion y Bws, Franz o Wlad Awstria, Gee Ceffyl Bach, ac yn rhoi cyfle i'r plant i ganu eu hoff ganeuon. Byddwn yn arbrofi gydag offerynnau ac yn clapio rhythmau geirfa newydd. Ceir cyfle i gopïo patrymau sŵn syml e.e. clap, stamp, clic.

Bydd y plant yn cael digon o gyfle i arbrofi gyda phaent drwy beintio o'r cof, peintio wrth arsylli, peintio gan amrywio un lliw (tywyllu / goleuo), peintio patrymau cymesurol. Bydd cyfle hefyd i wneud collage, modelau, creu yn y toes a thynnu lluniau ar y cyfrifiadur.

Byddwn yn edrych ar waith yr artist Alan Jones gan geisio efelychu ei lun 'Bysys'.


Datblygiad Corfforol

Y tymor hwn bydd y plant yn canolbwyntio ar gymnasteg a dawns. Byddwn hefyd yn datblygu hyder y plant wrth ymarfer symud i gyfeiriadau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol, i gydbwyso ac i dangos ymwybyddiaeth o ofod. Ceir cyfle hefyd i chwarae gemau parasiwt, sgipio gyda rhaffau, chwarae ar deganau mawr gan gynnwys beiciau, a chwblhau gweithgareddau yn y tywod a'r dŵr.

Yn y dosbarth bydd cyfle i edafu mwclis i wneud patrwm, adeiladu yn y Lego, cwblhau jig-so a chwarae rôl yn y tŷ bach twt, yn ogystal â chwarae byd bach - tŷ dol, fferm, trên. Byddwn yn newid y tŷ bach twt mewn i siop deithio. Bydd digon o gyfleoedd hefyd i ymarfer sgiliau siswrn a gludo a datblygu sgiliau rheolaeth pensil.