Ysgolion Iach
Mae Ysgol Llanilar wedi bod yn aelod o Gynllun Ysgolion Iach Ceredigion ers 2004. Rydym yn ceisio atgyfnerthu'r hyn a ddysgir am iechyd yn y dosbarth ym mywyd beunyddiol yr ysgol.
Yn ystod cyfnod 1 y cynllun cyflawnwyd 3 maes gweithredu
Yr Amgylchedd
Rheolaeth
Bwyta'n Iach
Crëwyd ffeil ar y 3 maes a chafodd ei drosglwyddo i'r tîm Ysgolion Iach. Roedd yr adroddiad a dderbyniwyd nôl ganddynt yn nodi bod y gwaith o safon uchel.
Cyflawnwyd 3 maes gweithredu arall yn cyfnod 2 y cynllun. Sef-
Gweithgareddau Corfforol
Hybu iechyd
Sylweddau
Crëwyd ffeil arall ar y 3 maes yma a chafodd ei drosglwyddo i'r tîm Ysgolion Iach ym mis Medi 2007. Derbyniodd yr ysgol y Wobr Ysgolion Iach, Cyfnod 2, ym mis Ionawr 2008.
Y meysydd gweithredu ar gyfer cyfnod 3 oedd
Rheolaeth
Iechyd Emosiynol a Lles
Gweithle Hybu Iechyd
Crëwyd ffeil o dystiolaeth ar y 3 maes a chafodd ei drosglwyddo i'r tîm Ysgolion Iach. Daeth dîm o aseswyr allan i gwrdd â phlant yr ysgol a chafwyd cyfle i fynd am daith o gwmpas. Roedd y dystiolaeth a welwyd yn dangos bod yr ysgol wedi cyrraedd ei hamcanion yn y tri maes. Derbyniodd yr ysgol y Wobr Ysgolion Iach, Cyfnod 3, ym Mehefin 2009.
Rydym bellach yn gweithio ar gyfnod 4 y cynllun. Y maes gweithredu eleni yw
· Addysg Perthnasau a Rhyw
Rydym yn parhau i weithredu ar y meysydd blaenorol, fel rhan o'r Cynllun mae'r ysgol yn
darparu poteli dŵr ar gyfer pob plentyn ac yn hybu'r plant i yfed dŵr yn ystod y dydd.
hybu bwyta'n iach drwy wneud dewisiadau iach amser cinio a dod â ffrwyth i'r ysgol i'w fwyta amser chwarae.
gwerthu ffrwyth yn y siop amser chwarae.
trefnu 'Diwrnod Hybu Ffrwythau' - ble rhoddir y cyfle i bawb flasu ffrwythau gwahanol, hybu neges 'Bwytwch 5', a dod â hoff ffrwyth i'r ysgol.
cydnabod y perthynas rhwng diet iach, iechyd y geg ac iechyd yn gyffredinol sy'n cynnwys diet ac ymarfer corff.
trefnu ymweliadau â'r deintydd, nyrs yr ysgol a'r ysbyty er mwyn atgyfnerthu gwaith ar iechyd o fewn y dosbarth.
sicrhau amgylchedd croesawgar drwy hau hadau i dyfu planhigion a blodau; edrych ar fanteision ail-gychu - poteli llaeth, papur, bin compost. (Mae hyn
ynglwm â'r Ysgolion Eco).
gwella'r iard chwarae drwy ehangu a marcio'r iard a phrynu sied i gadw adnoddau.
trefnu gemau iard drwy ddarparu profiadau ar gyfer gwahanol fathau o gemau amser chwarae.
Dysgu yn flynyddol am 'Diogelwch yn yr haul'.
rhoi'r cyfle i'r plant hyn fod yn aelod o'r 'Bygiau Baco!'.
trefnu 'Wythnos y Plentyn'.
Gobeithiwn feithrin agweddau, sgiliau ac ymddygiad cadarnhaol yn ein disgyblion drwy fod yn rhan o'r Cynllun Ysgolion Iach.