Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

 

Ysgolion Eco

Mae eleni yn flwyddyn brysur i'r pwyllgor Eco Ysgolion gan eu bod yn paratoi tuag at arolwg y Faner Werdd am y bedwaredd tro! Yn ogystal ag ail-gylchu papur, plastig, cardfwrdd a ffoniau mae'r pwyllgor hefyd yn deall y pwysigrwydd o gadw egni o fewn yr ysgol. Mae posteri yn yr ysgol yn atgoffa pobl i droi cyfrifiaduron, goleuadau, tapiau ac y llungopiwr i ffwrdd. Mae aelodau o'r pwyllgor yn cadw llygad ar faint o drydan rydym yn defnyddio. Mae'r plant yn casglu unrhyw fwyd gwastraff o'r gegin ar gyfer ein compost. Mae tŷ gwydr newydd yn cael ei adeiladu yn yr ardd ac mae'r plant yn paratoi yn barod am beth maent eisiau tyfu. Mae dosbarth derbyn wedi cymryd y cyfrifoldeb o fwydo'r adar ac rydym newydd cwblhau holiadur 'Gwylio Adar'. Mae'r pwyllgor yn mynd i weithio yn agos iawn gyda 'W.I.' y pentref i gasglu unrhyw sbwriel sydd o gwmpas y pentref.