Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size



 

Cyngor ysgol Llanilar 

 

Sefydlwyd Cyngor Ysgol Llanilar yn Medi 2004 ac mae'r Cyngor wedi bod yn hynod o brysur oddi ar hynny. Rydym yn cwrdd bob hanner tymor ac yn fwy aml fel mae'r galw yn codi. Rydym yn ethol disgyblion yn flynyddol. Yn cynrychioli'r disgyblion eleni mae:

  • Cadeirydd: Joe Wilkins
  • Ysgrifennydd Cymraeg: Iestyn Davies
  • Ysgrifennydd Saesneg: Annabel Talco
  • Trysorydd:  Imogen Pugh
  • Blwyddyn 5: Hana Bailey ac Ioan Jones
  • Blwyddyn 4: Siôn Hughes a Holly Stables
  • Blwyddyn 3:  Aron Bebb Worall  a Cameron Anderson
  • Blwyddyn 2:  Taj Prior a Ella Edwards

Yn  nhymor yr Hydref,  byddwn ni yn gwisgo fel "Selebs" ac yn codi arian ar gyfer Eisteddfod Ceredigion 2010 Ceredigion. Llwyddwyd i godi £300.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi

  • Cynnal  "Dewch a Phrynu"

Plant yn dod a theganau, llyfrau i werthu yn yr Ysgol er mwyn codi arian i gyfrif y Cyngor

  • Codi arian i "Latch" drwy wisgo pyjamas i'r Ysgol, golchi ceir staff, gwerthu cacennau a pheintio gwynebau
  • Cynnal "Noson Goffi" i gyhoeddi canlyniadau Ras Boteli'r Ysgol
  • Rydyn wedi creu Rheolau'r Ysgol ar y cyd ac mae copi i weld ymhob dosbarth (Haf 2008)
  • Rydyn wedi creu arwydd "Ffrindiau Ffyddlon" sydd i weld ar iard yr Ysgol i ddisgyblion defnyddio pan maent yn teimlo'n unig neu'n drist ar yr iard.(Haf 2008)
  • Trefnodd y Cyngor Ysgol (Medi 2008) diwrnod o godi arian ar gyfer adnoddau ar gyfer dosbarth derbyn i brynu adnoddau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Gwisgodd y disgyblion i fyny fel anifeiliaid a chynhaliwyd stondin cacennau. Codwyd £237.

Mae cyfle i holl ddisgyblion yr Ysgol nodi eu syniadau mewn ffeil ac mae'r Cyngor yn trin a thrafod materion amser cinio, amser chwarae a derbyn syniadau newydd.

Mae Miss Davies a Mrs Evans yn cynorthwyo'r Cyngor Ysgol

 

    

    


·