Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Côr yr Ysgol

Trip Côr yr Ysgol

Ar ôl gweithio'n galed dros y flwyddyn ddiwethaf roedd Côr yr Ysgol yn haeddu trip. Fe aethon ni i lethrau sgïo Llangrannog lle cafwyd llawer o hwyl. Yn gyntaf cafodd y disgyblion wersi sgïo ac ar ôl ychydig o ymarfer roeddent wedi cael profiad o fynd yn uwch ar y llethr sgïo. (llun)

Wedi'r sesiwn sgïo roedd y plant wedi cael cyfle i gwib-gartio lle cafwyd llawer o hwyl er y tywydd gwlyb! (llun) Cyn cael brechdanau a dechrau ein siwrnai yn ôl i'r ysgol.

Beth sydd i'w ddod?

Hen aelodau ac aelodau newydd

Mae yna groeso mawr i'r hen aelodau ac aelodau newydd i ymuno gyda'r côr eleni eto. Mae bod yn aelod o gôr yn cynnig llawer o brofiad perfformio ac yn magu hyder. Nid yn unig mae'n cynnig llawer o brofiad perfformio ond mae bod yn aelod o gôr yn ein dysgu i fod yn rhan o dîm ac yn datblygu'r sgiliau yma. Mae angen fod ym mlwyddyn 3-6 i fod yn aelod o'r côr. Cofiwch fod croeso i fechgyn a merched i ymuno gyda'r côr.

Eisteddfod yr Urdd

Unwaith eto mi fyddwn yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Mi fydd y côr yn ymarfer yn ystod sesiwn canu CA2 ar brynhawnau dydd Mercher er mwyn sicrhau nad yw'r plant yn colli allan ar amser chwarae. Mi fyddwn hefyd yn ymarfer yn ystod sesiynau Clwb yr Urdd ar nos Lun.

Gobeithiwn y gallwn gymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau canu, actio, llefaru ag offerynnol gwahanol felly'r mwyaf o blant sydd yn dangos diddordeb y mwyaf o brofiad gallwn roi i'ch plant.

Os mae eich plentyn ym mlwyddyn 1 a 2 ac eisiau cystadlu mewn unrhyw gystadleuaeth perfformio, celf a chrefft Eisteddfod yr Urdd dewch i'm gweld mor gynted ag sy'n bosib.

Mi fydd angen bod yn aelod o fudiad yr Urdd er mwyn cystadlu yn yr Eisteddfod.

Perfformiadau cyhoeddus

Mi fyddwn yn mynd i Morrisons unwaith eto i ddiddanu siopwyr wrth ganu carolau yn yr archfarchnad.

Bydd y côr yn perfformio ar ddechrau sioe Nadolig yr Ysgol.

Mynychu cartref yr henoed i'w diddanu gyda charolau a chaneuon o sioe'r Ysgol.

Mi fyddwn hefyd yn perfformio ym mharti'r henoed sydd yn cael ei gynnal yn yr Ysgol.

Trip y côr

Ar ôl llwyddiant trip y côr eleni gobeithiwn y gallwn fynd ar drip ar ddiwedd y flwyddyn yma eto. Mi fydd angen lleiafswm niferoedd i wneud y trip yn bosib unwaith eto.