Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Dosbarth Derbyn

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Ein thema'r tymor hwn yw Myfi fy hun. Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu. Byddwn yn seilio ein gwaith ar straeon sy'n addas i'r thema e.e. Parti Pen-blwydd Gwenno Gwningen, Pen-blwydd Ianto, Fi fy hun, Pump Cawr Mawr a Fi, Fi a fy nghorff, Lola'r Lindys Barus, Sanau Newydd Sali ac ati. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys gwrando ar straeon, chwarae gemau amrywiol, chwarae rôl, defnyddio'r cyfrifiadur ac ati. Bydd cyfle i ddysgu llawer o ganeuon a rhigymau newydd. Defnyddir Technoleg Gwybodaeth i hybu sgiliau gwrando, datblygu iaith ac i helpu dysgu llythrennau.

Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

Bydd y plant yn cael cyfleoedd i chwarae yn unigol, gyda ffrind agos ac mewn grŵp. Ceir cyfle i rannu profiadau ac i wrando yn ogystal â siarad e.e. yn ystod amser newyddion, amser cylch ac ati. Byddwn yn darllen straeon sy'n cyd-fynd â'r thema e.e. Sut wyt ti'n teimlo?, Straeon Alffi, Y Samariad Trugarog, Stori'r Nadolig. Byddwn yn siarad am deimladau ac yn gwahaniaethu rhwng ymddygiad derbyniol ac annerbyniol. Byddwn hefyd yn trafod dathliadau arbennig e.e. genedigaeth babi, pen-blwydd, bedydd, priodas, diolchgarwch, Divali a'r Nadolig.

Datblygiad Mathemategol

Yn ystod y tymor bydd y plant yn cael cyfle i rifo, cyfri a dysgu rhigymau a chaneuon rhif. Byddwn yn ymchwilio siâp a gofod, datrys problemau ac ymchwilio mesuriadau, yn ogystal â dechrau deall a defnyddio iaith adio a thynnu. Byddwn yn siarad am iaith amser yn ddyddiol drwy ganu caneuon ac adolygu dyddiau'r wythnos, misoedd y flwyddyn a'r tymhorau. Bydd cyfle i chwarae nifer o gemau mathemategol ar CD-ROMs y dosbarth ac ar raglenni gwe.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd

Byddwn yn edrych ar luniau o'r plant yn fabanod ac yn ceisio dyfalu pwy yw pwy? Bydd y plant yn cael cyfle i sortio eitemau ar gyfer babanod, plentyn bach a phlentyn hyn. Fe fydd mam a babi yn ymweld â'r dosbarth a cheir cyfle i holi cwestiynau.

Byddwn yn adnabod ac enwi rhannau'r wyneb a'r corff a cheir cyfle i sylwi yn fanwl ar nodweddion eu hwynebau. Byddwn yn creu caffi yn y dosbarth ac yn edrych ar fwydydd iach.

Byddwn yn disgrifio'r tywydd yn ddyddiol ac yn cymryd diddordeb yn y tir o gwmpas yr ysgol. Anogir y plant i adnabod a disgrifio'r prif nodweddion. Ceir cyfle i greu llyfr dosbarth am bobl sy'n ein helpu yn yr ysgol, tynnwn luniau o'r staff a dysgu am eu gwaith. Byddwn hefyd yn edrych yn fanwl ar waith y deintydd.

Datblygiad Creadigol

Byddwn yn dysgu caneuon a rhigymau newydd sy'n cyd-fynd â'r thema e.e. Pen, ysgwyddau, coesau, traed, Dwylo ar ein llygaid, Caneuon Diolchgarwch, Caneuon Nadolig; ac yn rhoi cyfle i'r plant i ganu eu hoff ganeuon. Byddwn yn arbrofi gydag offerynnau ac yn clapio rhythmau geirfa newydd. Ceir cyfle i gopïo patrymau sŵn syml e.e. clap, stamp, clic.

Bydd y plant yn cael digon o gyfle i arbrofi gyda phaent drwy beintio o'r cof, peintio wrth arsylli, peintio gan amrywio un lliw (tywyllu / goleuo), peintio patrymau cymesurol. Bydd cyfle hefyd i wneud collage, modelau, edrych ar waith artist gan geisio ei efelychu, creu yn y toes a thynnu lluniau ar y cyfrifiadur.

Datblygiad Corfforol

Y tymor hwn bydd y plant yn canolbwyntio ar gymnasteg a gemau. Ceir cyfle hefyd i chwarae gemau parasiwt, sgipio gyda rhaffau, chwarae ar deganau mawr gan gynnwys llithren a beiciau, a chwblhau gweithgareddau yn y tywod a'r dŵr. Yn y dosbarth bydd cyfle i edafu mwclis i wneud patrwm, adeiladu yn y Lego, cwblhau jig-so a chwarae rôl yn y tŷ bach twt, yn ogystal â chwarae byd bach - tŷ dol, fferm, trên. Byddwn yn newid y tŷ bach twt mewn i ysbyty. Bydd digon o gyfleoedd hefyd i ymarfer sgiliau siswrn a gludo a datblygu sgiliau rheolaeth pensil.