Cymraeg
Yn ystod y tymor, byddwn yn darllen nofel Dirgelwch yr Ogof gan T.Llew Jones. Byddwn yn dysgu am draddodiad smyglo er mwyn deall cefndir y nofel a'n gwneud tasgau ysgrifenedig wedi'u seilio ar y nofel. Byddwn hefyd yn cael profion sillafu cymraeg a gwaith cartref yn wythnosol.
Gwyddoniaeth
Y corff yw ein thema Gwyddoniaeth yn ystod Tymor yr Hydref. Byddwn yn adolygu'r hyn a ddysgwyd ym mlwyddyn 3 a 4 a'n edrych yn ddyfnach ar ddeiet cytbwys, y sgerbwd ac organau'r bod dynol. Byddwn hefyd yn dysgu am swyddogaeth y galon ac ar effeithiau ymarfer corff ar y galon.
Hanes
Oes Fictoria yw ein cyfnod hanesyddol yn ystod y tymor. Byddwn yn dysgu am yr ysgol yn Oes Fictoria a sut le oedd pentrefi yn y cyfnod. Bydd y plant yn dysgu am ddatblygiad diwydiant mewn trefi yng Nghymru yn ystod y cyfnod ac am yr afiechydon a oedd yn ran mawr o fywyd yn Oes Fictoria.
Daearyddiaeth
Botswana yw'r ardal byddwn yn astudio yn ystod y tymor a bydd y disgyblion yn dysgu am bethau sy'n wahanol rhwng Cymru â Botswana. Yn ogystal, o ganlyniad i un o'r disgyblion yn treulio tymor yn Sbaen, byddwn yn dysgu am ei ardal leol yno. Byddwn felly'n gallu cymharu ardal leol Llanilar ac ardal tebyg yn Sbaen.
Dylunio a Thechnoleg
Coginio yw thema ein gwaith Dylunio a Thechnoleg yn ystod y tymor. Bydd y plant yn ymchwilio i wahanol fathau o bitsa a gwerthoedd maeth y pitsa cyn cynllunio, coginio a gwerthuso ei pitsa personol.
Celf a Dylunio
Tirluniau yw prif ffocws ein gwaith celf yn ystod y tymor. Bydd y plant yn dysgu am ddulliau o beintio tirluniau a sut i amrywio'r paent i'w ddefnyddio i greu'r effaith orau. Byddwn yn edrych ar rai o dirluniau lleol Catrin Webster a'n efelychu un ohonynt. Bydd y plant yn cael cyfle i werthuso gwaith eu hunain ac eraill a'n ystyried sut i'w gwella.
Addysg Grefyddol
Bydd y disgyblion yn dysgu prif nodweddion prif grefyddau'r byd ac yna'n edrych ar Gristnogaeth ac Islam yn fwy manwl. Bydd y plant yn cael cyfleoedd i drafod beth yw crefydd a pa fath o ddathliadau crefyddol sydd gan Gristnogion. Byddwn parch tuag at wahanol gredoau yn cael ei annog yn ystod y gwersi.