Ysgol Gynradd Llanilar Primary School

Help : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Tymor yr Hydref

Thema: Ni ein hunain

Cymraeg

Yn ystyd y tymor hwn, byddwn yn cyd-ddarllen Yr Hen Wraig a'r Pedwar Sŵn. Bydd yr adnodd hwn yn sylfaen i weithgareddau dysgu pellach yn y Gymraeg. Yn ogystal â datblygu sgiliau ysgrifennu yn greadigol bydd y disgyblion yn ymarfer sgiliau gramadegol pwysig. Bydd pwyslais ar gyd-weithio yn ogystal â dysgu'n annibynnol er mwyn datblygu'r sgil o gyfathrebu yn effeithiol. Wrth ysgrifennu'n greadigol bydd y disgyblion yn pennu eu meini prawf eu hunain.

Saesneg

Fair's Fair gan Leon Garfield fydd testun darllen y tymor hwn. Yn ogystal â darllen er mwynhad bydd y llyfr yn cynnig cyfleoedd dysgu ehangach o ran ysgrifennu creadigol. Er mwyn cynorthwyo datblygiad eu sillafu, bydd disgyblion hefyd yn cael cyfleoedd i ddysgu rheolau gramadegol. Bydd pwyslais ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu trwy gyfrwng tasgau grŵp yn ogystal â thasgau annibynnol.

Mathemateg

Yn ystod y tymor hwn bydd y disgyblion yn cael cyfle i atgyfnerthu ac i ehangu ar sgiliau rhif sylfaenol - gwerth lle ac adio, tynnu, lluosi a rhannu. Ehangir ar y sgiliau hyn trwy ddysgu ynghylch agweddau megis ffracsiynau syml, amser a siâp. Bydd pwyslais ar elfen ymarferol Mathemateg yn ogystal â dulliau papur a phensil.

Gwyddoniaeth

Y Corff fydd ffocws y dysgu a'r addysgu mewn Gwyddoniaeth yn ystod tymor yr Hydref. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddysgu ynghylch agweddau megis pwysigrwydd bwyta a chadw'r corff yn iach, swyddogaeth dannedd a gwaith pwysig y galon a'r system waed. Ategir datblygiad sgiliau cyfathrebu a meddwl yn bennaf trwy gyfrwng gwersi CASE (lle mae'r disgyblion yn cyd-weithio i ddatrys agweddau Gwyddonol).

 

Hanes

Oes Fictoria yw'r cyfnod sydd o dan sylw y tymor hwn. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i holi cwestiynau ac i fyfyrio ynghylch y gorffennol ac i lunio barn a chymharu agweddau o'r cyfnod gyda'r cyfnod presennol. Pwysleisir y dimensiwn Cymreig a chrybwyllir goblygiadau y 'Welsh Not'.

Daearyddiaeth

Yr Ardal Leol fydd yn ysgogi'r dysgu mewn Daearyddiaeth yn ystod y tymor hwn. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i holi ac i ystyried cwestiynau am gymuned Llanilar. Bydd y tywydd yn ffactor i'w hystyried yn y dysgu hefyd. Yn ogystal â dysgu am y gymuned leol bydd y disgyblion yn cael cyfleoedd i ehangu eu gorwelion daearyddol trwy gadw llygad ar yr hyn sydd yn digwydd yn ddaearyddol o amgylch y byd.

Celf

Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddysgu ynghylch campweithiau'r artistiaid Pablo Picasso a Vincent Van Goch. Byddant yn ystyried nodweddion portread a hunan bortread ac yn cael y cyfle i arbrofi a llunio hunan bortread. Bydd y disgyblion yn gwerthuso dyluniadau ei gilydd.

Dylunio a Thechnoleg

Creu smŵddi yw briff y tymor hwn. Cyn mynd ati i gynllunio ac i greu a gwerthuso eu smŵddis bydd y disgyblion yn ymchwilio i weld beth sydd eu hangen ar gyfer creu smŵddi blasus a iachus!

Addysg Gorfforol

Gymnasteg fydd ffocws y dysgu mewn Addysg Gorfforol. Yn ogystal â mireinio sgiliau trwy ganolbwyntio ar yr wyth siâp sylfaenol, bydd y disgyblion yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ffactorau iechyd a diogelwch wrth drin offer gymnasteg.

Cerddoriaeth

Bydd y disgyblion yn edrych ar Ein Hanthem Genedlaethol yn ogystal ag anthemau eraill ar draws y byd.