Yn sgil dechreuad newydd ym myd addysg mi fydd y sgiliau angenrheidiol sef sgiliau meddwl , rhifedd , technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn ganolbwynt i wersi blwyddyn 1 a 2 y flwyddyn hon. Mi fydd blwyddyn 1 yn dilyn fframwaith cyfnod sylfaen sydd yn ffordd newydd o ddysgu plant trwy chwarae ond mae plant blwyddyn 1 wedi bod yn dilyn yr un strwythur yn y dosbarth derbyn. Oherwydd y cyfnod sylfaen mi fydd y plant yn dysgu o fewn y meysydd dysgu sef: Datblygiad Personol, cymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Datblygiad iaith, llythrennedd a chyfathrebu, Datblygiad mathemategol, Datblygiad creadigol, Datblygiad corfforol a Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd. Mi fydd blwyddyn 2 dal i ddilyn cwricwlwm diwygiedig 2000.
Datblygiad Personol, Cymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
Addysg Bersnol a Chymdeithasol
Mi fydd y plant yn cael cyfeloedd i drafod materion gwahanol ynghlun ag iechyd, ac yn trafod rhannau gwahanol y corff a'u swyddogaethau. Mi fyddwn yn trafod a chreu rheolau'r dosbarth a'r ysgol ac yna'n trafod pwrpas rheolau. Byddwn yn edrych ar dewisiadau gwahanol bydd rhaid ini wneud dros y flwyddyn ac yn trafod rhai a fydd yn digwydd yn y dyfodol. Wrth drafod hyn mi fyddwn yn edrych i weld pa ddewisiadau sy'n dda neu'n ddrwg a pham. Byddwn yn edrych ar ein hymddygiad ac yn gweld sut mae ein hymddygiad yn effeithio ar bobl neu pethau sydd o'n cwmpas.
Datblygiad iaith, llythrennedd a chyfathrebu
Iaith
Y tymor hwn mi fydd plant blwyddyn 1 a 2 yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar, darllen ac ysgrifenedig a hyn gyda mewnbwn ymarferol. Pob bore mi fyddwn yn cael y cyfle i rannu a chlywed newyddion ein ffrindiau. Byddwn hefyd yn clywed a darllen llu o storïau amrywiol yn cynnwys y storïau 'Ffrindiau' gan Rob Lewis, 'Gwlad yr Hetiau' a 'Pen-blwydd Ianto'. Mi fyddwn yn chwarae rôl gyda phypedau y byddwn yn ei greu ac yn 'Siop y Pentref' lle cawn ni'r cyfle i rannu a chware gyda'n ffrindiau.
Datblygiad Mathemategol
Mathemateg
Mi fyddwn yn dod i adnabod gwerth rhifau dau ddigid a byddwn gallu trefnu a ffurfio'r rhifau yma. Byddwn hefyd yn datblygu dulliau o weithio gyda rhifau ar lafar ac yn y pen wrth wneud symiau adio a thynnu ac wrth fesur a phwyso. Yn ystod y flwyddyn byddwn yn gweithio gyda siâp, arian, amser a nifer o agweddau mathemategol eraill a fydd yn codi yn ein bywydau pob dydd.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd
Gwyddoniaeth
Yn unol â thema 'fi fy hun' mi fyddwn ni'n dysgu am ein cyrff a phrosesau bywyd, sef y pethau sydd ei angen arnom i gadw'n fyw ac yn iach. Byddwn yn dysgu am fwydydd sydd yn iach ac yn afiach ac yn deall fod bwyta bwydydd yn iach yn dda inni.
Daearyddiaeth
Mi fyddwn yn canolbwyntio ac yn edrych ar safleoedd gwahanol yn yr ysgol a'r tir sydd yn amgylchynu'r ysgol, mi fyddwn yn deall pwrpas y safleoedd ar gyfer gweithgareddau sydd wedi ei benodi i'r lleoliadau yma. Byddwn hefyd yn edrych ar gynnyrch o Gymru a gwledydd gwrthgyferbyniol ardraws y byd wrth weld a deall ar y glôb o le daw'r bwydydd yma.
Hanes
Y tymor hwn mi fyddwn yn trafod a chymharu ein tegannau ni a thegannau yn yr hen ddyddiau. Mi fyddwn yn defnyddio ein sgiliau ymchwilio i ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol. Mi fyddwn yn edrych ac yn dysgu am bwy oedd Jane Pritchard a Sant Nicolas.
Datblygiad creadigol
Cerddoriaeth
Mi fydd y plant yn gwrando ac yn dysgu amrywiaeth o ganeuon o Gymru ac yn gwrando a gwerthuso caneuon o wledydd eraill wrth sylwi ar wrthgyferbyniadau elfennau cerddorol unigryw'r gwledydd yma. Mi fyddwn yn mwynhau cael cyfle i gyfansoddi yn ein gwersi ac yna perfformio ein gwaith o flaen gweddill y dosbarth.
Celf
Y tymor hwn mi fyddwn yn canolbwyntio ar waith hunan bortread Y teulu John o Becyn Dyfed ac mi fyddwn yn rhoi cynnig ar arlunio hunan bortread o'n hunain. Wrth wneud hyn mi fyddwn yn arbrofi gyda gweadau a deunydd dylunio amrywiol. Mi fyddwn hefyd yn arbrofi gyda thechnegau arlunio gwahanol wrth beintio gyda'n dwylo, brwsh paent, sbwng a phrintio.
Dylunio a Thechnoleg
Mi fyddwn yn cael hwyl wrth edrych ar fathau gwahanol o fara ac yn dod i wybod rheolau glendid yn y gegin. Ar ddiwedd ein gwaith ymchwilio m i fyddwn yn mynd ati i drafod gwahanol fathau o frechdanau ac yn mynd ati i gynllunio a chreu brechdanau. Byddwn yn mwynhau cael picnic wrth werthuso ein brechdanau.
Datblygiad Corfforol
Ymarfer corff
Mi fyddwn yn cymryd rhan mewn gwersi nofio am yn ail wythnos am y tymor hwn, lle gobeithiwn gryfhau ein sgiliau a thyfu'n hyderus yn y pwll. Mi fyddwn hefyd yn cael y cyfle i ymuno â'r dosbarth derbyn pob dydd iau lle byddwn yn ymarfer sgiliau'r bel, gwaith traed, maesu a batio.
Technoleg gwybodaeth
Y tymor hwn mi fyddwn yn cael y cyfle i ddatblygu ein sgiliau technoleg gwybodaeth o fewn pob gwers wrth ddefnyddio'r cyfrifiadur i dynnu lluniau, teipio gwaith, creu graffiau a hefyd wrth ddefnyddio camera digidol i gofnodi ein gwaith.